Ein Cynhyrchiad o 'A Midsummer Night's Dream':

Ein Cynhyrchiad o 'A Midsummer Night's Dream':

7th November 2012

Cofiwch am ein perfformiad heno yn Theatr Glan yr Afon heno.

Heno, bydd rhai o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn perfformio yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae rhai o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi bod yn brysur iawn yn gweithio ar ein perfformiad o ddrama Shakespeare, 'A Midsummer Night's Dream'.

Mae Miss Griffiths, Miss Hughes a rhai o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi bod yn gweithio'n galed ar yr actio, y marchnata, y gwisgoedd, y sain, y goleuo a'r set.

Gobeithiwn y bydd popeth yn barod ar gyfer y cynhyrchiad ar y 7fed o Dachwedd.

Dyma ychydig o eiriau gan aelod o'r Tim Marchnata, Ben:

Er mwyn archebu eich tocynnau, dyma rifau i chi alw'r Theatr yng Nghasnweydd:

(01633) 656679.
(01633) 656757.
(01633) 656677.

neu e-bostiwch y Theatr: the.riverfront@newport.gov.uk neu riverfront.education@newport.gov.uk.

Mae'r tocynnau ar gael am £8 nawr.

Dewch i gefnogi.

Gobeithio y gwelwn ni chi yno.

Er mwyn archebu tocynnau, dyma wefan Theatr Glan yr Afon.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr