Taith Llangrannog:

Taith Llangrannog:

2nd October 2012

Dyma rai o’r manylion terfynol ar gyfer Llangrannog:

Byddwn yn gadael yr ysgol am 1 o’r gloch ddydd Gwener. Gall y disgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad eu hunain.

Gallant ddod â £10 gyda nhw i wario a gofynnwn yn garedig i chi roi’r arian mewn pwrs / waled wedi'i labeli gydag enw’ch plentyn.

Gofynnwn hefyd fod pob eitem o ddillad a thywelion wed’u labeli’n ogystal, gan fod pethau’n mynd ar goll yn hawdd.

Dylai pob moddion, pwmp asthma ayyb gael ei roi i Miss Passmore ar fore dydd Gwener. Rhaid i bob pwmp asthma gael ei labeli’n glir, gan fod llawer yn cael eu rhoi i ni fel arfer.

Gobeithiwn fod yn ôl yn yr ysgol erbyn 5 o’r gloch ddydd Sul a bydd ffon symudol yr ysgol ar gael i chi ffonio ar ôl 3.

Rhaid i bob plentyn ddod â sach gysgu, clustog a digon o ddillad cynnes a digon o ddillad sbar gyda fe / hi.

Os nad ydych chi wedi talu’r arian i gyd, gofynnwn yn garedig i chi wneud hyn erbyn dydd Gwener.

Os oes unrhyw gwestiynau eraill gyda chi, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr