Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

30th September 2012

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:
Clwb TGCh ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)

Clwb celf i blant blwyddyn 2.
(12-12:30)

Sesiwn rygbi tan 4:30.

Bydd plant y Pwyllgor Eco yn mynd ar daith yn y bore.

Dydd Mawrth:
Clwb LEGO ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)

Clybiau ar ôl ysgol:

Pel-rwyd yn yr ysgol tan 4:30.
Pel-droed yn y Ffatri Bel-droed. (4-5)

Dydd Mercher:
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb Gwnio ar ôl ysgol.
(Plant blwyddyn 2 tan 4:30)
Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 5.

Nos Iau:
Clwb darllen ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)

Ymarfer i holl actorion Shakespeare tan 5.

Dim ymarfer côr ar ôl ysgol ar hyn o bryd.

Dydd Gwener:
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Langrannog am y penwythnos. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain. Byddwn yn gadael yr ysgol am 1 o'r gloch.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr