Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

16th September 2012

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Wythnos Cymru Daclus:

Bydd pob dosbarth yn ymweld a rhan wahanol o'r ardal leol yn ystod yr wythnos er mwyn tacluso'r ardaloedd hynny.
(Rhaid ein bod wedi derbyn slip caniatad yn ol er mwyn i'ch plentyn fynd.)

Rhaid i Miss Passmore dderbyn y ffurflenni meddygol ar gyfer Llangrannog erbyn diwedd y dydd dydd Llun os gwelwch yn dda.

Dydd Llun:
Clwb TGCh ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)

Dydd Mawrth:
Cllwb LEGO ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)

Clybiau ar ôl ysgol:
Clwb pêl-rwyd yn yr ysgol tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.
(Cysylltwch gyda Miss Passmore.)

Clwb pêl-droed yn y Ffatri bêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 4 a 5 o'r gloch.
(Cysylltwch gyda Mr Passmore neu Mr Rock)

Dydd Mercher:
Dim clwb yr Urdd ar hyn o bryd.

Nos Iau:
Clwb darllen ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)

Ymarfer i holl actorion Shakespeare tan 5.

Dim ymarfer côr ar ôl ysgol ar hyn o bryd.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr