Clybiau Cyfnod Allweddol 2:

Clybiau Cyfnod Allweddol 2:

6th September 2012

Dyma restr o’r clybiau sy’n cael eu cynnig i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2:

Nos Fawrth: Clwb Ffitrwydd.

Yn dechrau wythnos nesaf.

Clwb chwaraeon yn yr ysgol tan 4:30 i flynyddoedd 4, 5 a 6.

Chwaraeon yr hanner tymor yw pêl-rwyd.

Pêl-droed yn y Ffatri bêl-droed o 4 tan 5. (Llythyr i ddilyn)

Nos Fercher:
Clwb yr Urdd tan 4:30.
Blynyddoedd 3, 4, 5 & 6.

Bydd Miss Passmore a Miss Griffiths yn danfon llythyr am y clwb hwn – ni fydd clwb yr Urdd yn dechrau am ychydig o wythnosau gan fod angen casglu tâl aelodaeth yr Urdd yn gyntaf.

Nos Iau: Ymarfer Cor.
Bydd ymarferion côr yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf ar ôl i Miss Griffiths wrando ar blant newydd yn canu. Bydd Miss Griffiths yn rhoi gwybod i aelodau’r côr am yr ymarfer cyntaf yn yr wythnosau nesaf.

Bydd clybiau amser cinio yn ail ddechrau wythnos nesaf.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr