Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

17th July 2011

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:

Trip blynyddoedd 1 a 2 i Fae Caerdydd a Phenarth.
Bydd angen pecyn cinio, cot law a digon o ddwr ar y plant.

'Computer Explorers' tan 4:30.
Clwb chwaraeon tan 5.

Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth 'Disgybl yr wythnos'.

Bydd y disgyblion yn treulio'r bore yn eu dosbarthiadau newydd.

Dim clwb chwaraeon.

Beicio ar gyfer blwyddyn 6. (tan 5)

Dydd Mercher:

Gwasanaeth gadael blwyddyn 6.
(9:30)

Dim Clwb yr Urdd.

Dydd Iau:

Diwrnod ola'r tymor. Bydd yr ysgol yn cau ar yr amser arferol.

Dim Clwb TGCh.

Bydd y disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar Ddydd Mawrth y 6ed o Fedi.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr

Cyhoeddiadau 2010/11