Gweithdy Ysgrifennu Creadigol Blwyddyn 6:

Gweithdy Ysgrifennu Creadigol Blwyddyn 6:

18th May 2011

Ddoe, daeth Cyril Jones i ymweld gyda disgyblion blwyddyn 6 i gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol.

Dyma adroddiad Vienna o'r gweithdy:

Daeth Cyril Jones i’n ysgol i drafod ysgrifennu creadigol gyda ni. Aethon ni lawr i’r gamlas a defnyddion ni ein synhwyrau i ysgrifennu cerddi am y gamlas. Cawsom ni amser da iawn. Hoffwn ni ddweud diolch i Cyril am ei waith caled yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Dyma fy ngherdd am y gamlas ....

Tu draw i Trem Twynbarlwm
Mae’r gamlas.
Blodau pert ac adar yn hedfan,
Hwyaid yn creu siapiau yn y dwr.
Dail yn dawnsio yn y gwynt,
Rhaeadr llyfn yn llifo
Lawr grisiau y gamlas.

Tu draw i Trem Twynbarlwm
Mae’r gamlas
Clywed ceir yn y pellter
Yn gyrru dros y bont.
Cwn yn cyfarth,
Ar hyd y gamlas.
plant yn cerdded ar hyd y llwybr,
 baw cwn o dan eu traed.

Tu draw i Trem Twynbarlwm
Mae’r gamlas
Blasu natur yn y byd,
Arogli gwair ar draws y tir.
Teimlo’r gwynt ar glaw,
Yn dod o’r cymylau,
Ar y gamlas.

Tu draw i Trem Twynbarlwm
Mae bwrlwm y gamlas

Gan Vienna Robinson (Ysgol Gymraeg Cwmbrân)


^yn ôl i'r brif restr