Digwyddiadau Blwyddyn 6:

Digwyddiadau Blwyddyn 6:

10th May 2011

Dyma rai o'r pethau sy'n mynd ymlaen gyda blwyddyn 6 dros yr wythnosau nesaf:

Ffrindiau Ffeil:
Yn ystod yr wythnos, bydd disgyblion y dosbarth yn ysgrifennu ar wefan ‘Ffrindiau ffeil’ gan sôn am unrhyw weithgareddau sy’n mynd ymlaen yn yr ysgol.

Gweithdy Ysgrifennu Creadigol:
Ar ddydd Mercher, y 18fed o Fai, bydd Cyril Jones yn ymweld â’r dosbarth i gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol. Byddwn yn mynd am daith o gwmpas yr ardal leol yn y bore er mwyn cael ein hysbrydoli am yr hyn i’w ysgrifennu.

Taith Addysg Grefyddol / TGCh:
Ar ddydd Gwener, yr 20fed o Fai, bydd plant y dosbarth yn mynd ar daith i Eglwys ym Mhontypwl. Byddwn yn dysgu am addysg grefyddol yn yr unfed ganrif ar ddeg. Bydd hwn yn cael ei gyfuno â TGCh yn ogystal.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr