Ymweliad gan Rhod Gilbert:

Ymweliad gan Rhod Gilbert:

14th April 2011

Ddoe, cawsom ni'r fraint o gwmni Rhod Gilbert yn yr ysgol.

Cytunodd Rhod i ddod i'r ysgol er mwyn siarad gyda'r plant am ei yrfa fel diddanydd ac er mwyn ateb cwestiynau ar ei gyfres profiad gwaith. Mae hwn yn plethu'n dda gyda'n wythnos menter a busnes.

Aeth Rhod o gwmpas yr ysgol a siaradodd gyda disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 am ei waith a'i lwyddiant.

Roedd yn brynhawn arbennig iawn yn yr ysgol gyda phawb yn mwynhau cwrdd â Rhod. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ymweld â'r ysgol ac am roi ei amser i ni.


^yn ôl i'r brif restr