Wythnos Menter a Busnes:

Wythnos Menter a Busnes:

11th April 2011

Yn ystod yr wythnos, byddwn yn cynnal gwahanol weithgareddau a gweithdai er mwyn hybu menter a busnes yn yr ysgol; er mwyn meithrin sgiliau’r disgyblion ac er mwyn rhoi cyfle i bob disgybl gael profiad o’r byd gwaith.

Dyma rai o’r gweithdai bydd yn cael eu cynnal yn yr ysgol:

Gweithdy Masnach Deg
(Martha Musonza Holman)
Gweithdy Menter a Busnes gan Tim Hall.
Gweithdy ac awdit dwr gan ‘Dwr Cymru.’
Gwasanaeth gan Cymorth Cristnogol ar fasnach deg.
Gweithdy cerddorol gyda Real Radio.
Gweithdy caws gan ‘A Chunk of Wales.’
Gweithdai gan y cwmnïoedd lleol canlynol:
Discount Tyres, Tudfil Training, Boots,
National Statistics, Morgan Sindal a Lloyds.

Bydd rhai o’r disgyblion yn ymweld â’r lleoedd canlynol:

Taith i ‘IG Doors.’
Taith i ‘Pizza Hut’, Cwmbrân.
Taith i ‘Pets at Home.’
Taith i ‘Springvale’.
Taith i ‘Burton’s Foods’.

Prynhawn Agored: Dydd Gwener, Ebrill 15fed, 2:30—3:45.

Yn ystod yr wythnos, bydd eich plentyn yn creu cynnyrch i’w werthu yn y prynhawn agored ar ddydd Gwener.

Mae’r PTA yn trefnu lluniaeth ysgafn yn y neuadd a bydd nifer helaeth o gwmnïoedd lleol yn dod i’r ysgol i hysbysebu eu gwaith i chi fel rhieni yr ysgol. Gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth ar y dydd Gwener er mwyn gwneud yr wythnos yn llwyddiannus. (Os oes diddordeb gyda chi mewn cynnal stondin i’ch cwmni/busnes ar y dydd Gwener, cysylltwch gyda Mr Passmore yn yr ysgol)

Dewch i gefnogi rhwng 2:30 a 4 ar ddydd Gwener.


^yn ôl i'r brif restr