Llongyfarchiadau i'r rheiny gymerodd rhan yn yr Eisteddfod Gylch heddiw.

Llongyfarchiadau i'r rheiny gymerodd rhan yn yr Eisteddfod Gylch heddiw.

19th March 2011

Aeth dros 30 o ddisgyblion, aelodau o staff a rhieni i'r Eisteddfod yn Ysgol Gynradd Bro Helyg heddiw.

Llwyddodd yr ysgol i ennill y darian am yr ysgol gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau ar y llwyfan felly diolch yn fawr i bawb am eu holl waith caled.

Bydd llawer o gystadlaethau yn mynd ymlaen i'r Eisteddfod Sir sy'n digwydd ar yr 2il o Ebrill yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Dyma restr o'r cystadlaethau fydd yn mynd ymlaen i'r Eisteddfod Sir:

Unawd Bl. 2:
Naomi. (1af)
Deuawd Bl. 5 a 6:
Morgan a Vienna (1af)
Sian a Bethan (2il)
Llefaru Bl. 5 a 6:
Vienna (2il)
Alaw werin:
Bethan (1af)
Amy (2il)
Parti Llefaru (1af)
Parti Unsain (1af)
Parti Deulais (1af)
Parti Dawnsio disgo (1af)
Cor (1af)

Da iawn i bawb a diolch i bawb am eu cefnogaeth.


^yn ôl i'r brif restr