Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

11th March 2011

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol yr wythnos hon:

Gwefan yr wythnos:
Edrychwch ar wefan yr wythnos drwy glicio ar y gwefannau isod:

Y Cyfnod Sylfaen: Gwefan mathemateg.
Cyfnod Allweddol 2: Gwefan Newsround.

Dydd Llun:
Clwb TGCh amser cinio.

Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn mynd i Fferm Green Meadow ar gyfer y prosiect 'Forest Schools'.
(Bydd angen pecyn cinio arnynt.)

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i 'Crucial Crew' sydd wedi'i drefnu gan Heddlu Gwent.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hefyd)

Gwersi 'Computer Explorers' ar gyfer blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 tan 4:30.
(Cwrs newydd yn dechrau heno.)

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos: 9:10 yb.
Clwb chwaraeon ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer ymgom tan 4:30.

Dydd Mercher:
Clwb cyfansoddi amser cinio.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo tan 6 o'r gloch.

Dydd Iau:
Clwb TGCh tan 5 o'r gloch.
Ymarfer côr tan 5:30.

Dydd Gwener:
Clwb darllen ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 amser cinio.
Ymarfer côr ar ôl ysgol.
(Amser i'w gadarnhau)

Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Gylch yr Urdd: Ysgol Gynradd Bro Helyg (Nantyglo)
Manylion i'w cadarnhau.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr