Taith i Sain Ffagan:

Taith i Sain Ffagan:

24th January 2011

Heddiw, aeth disgyblion o flynyddoedd 3 a 4 i Sain Ffagan i ddysgu mwy am y Celtiaid, ar ôl astudio'r cyfnod yn ystod y tymor cyntaf.

Cafodd y plant gyfle i ymweld â'r pentref Celtaidd yno a chawsant gyfle i adeiladu wal gyda mwd a cherrig.

Aethant i ymweld â'r adeiladau gwahanol a chawsant gyfle i brofi bywyd Celtaidd.

Cafwyd diwrnod yn llawn hwyl yn Sain Ffagan gyda'r plant yn dysgu llawer am fywyd y Celtiaid yn ystod eu hymweliad.

Tynwyd y lluniau gan Morgan o flwyddyn 4.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr