Trefniadau'r wythnos:

Trefniadau'r wythnos:

23rd January 2011

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol yr wythnos hon:

Gwefan yr wythnos:
Edrychwch ar wefan yr wythnos drwy glicio ar y gwefannau isod:
Y Cyfnod Sylfaen: Gwefan bowns.
Cyfnod Allweddol 2: Gwefan am y Celtiaid.

Dydd Llun:
Clwb TGCh amser cinio.
Gwersi 'Computer Explorers' ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Bydd plant o flynyddoedd 3 a 4 yn mynd ar daith i Sain Ffagan.
(Byddant yn dychwelyd i'r ysgol am 4 o'r gloch)

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth disgybl yr wythnos (9:10)
Clwb chwaraeon ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Chwaraeon y tymor hwn yw 'cadw'n heini'.
Taith y derbyn i Sain Ffagan.

Dydd Mercher:
Clwb cyfansoddi amser cinio.
Dim Clwb yr Urdd.
Bydd rhaglen 'Cyw' yn ffimlio'n y Cyfnod Sylfaen drwy'r dydd.
Bydd cwmni 'Big Beat' yn gwneud gweithdy drymiau gyda phlant blwyddyn 5 drwy'r dydd.

Dydd Iau:
Ymarfer Côr Llanofer tan 5.
Cwmni 'Keep Me Safe' yn dod i wneud gweithdy gyda disgbylion blwyddyn 5.

Dydd Gwener:
Clwb darllen ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 amser cinio.
Bydd rhaglen 'Ffeil' yn dod i ffilmio rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 yn ystod y dydd.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr