Prosiect 'Un Byd':

Prosiect 'Un Byd':

20th January 2011

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn cysylltu gydag ysgolion eraill mewn prosiect 'Un byd' y flwyddyn hon.

Rydym wedi derbyn ein gwahoddiadau swyddogol gan yr ysgol yn Tsienia ac wedi danfon lluniau ohonom ni gyda'r posteri yn ol at yr ysgol.

Rydym bellach yn casglu lluniau ohonom ni, o'r ardal leol ac o'n hoff bethau i'w danfon at yr ysgolion yn Hong Kong, Efrog Newydd a Phacistan.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eu lluniau nhw hefyd. Byddwn yn trefnu fideo-gynadledda gyda'r ysgolion er mwyn i ni rannu gwybodaeth am ein gwlad a'n diwylliant.

Edrychwn ymlaen yn fawr at y profiad.


^yn ôl i'r brif restr