Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

15th November 2010

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol yr wythnos hon:

Dydd Llun:
Gweithdy Gwyddoniaeth i blant CA2.
Clwb TGCh amser cinio.

Nos Lun:
Clwb 'Computer Explorers' i flynyddoedd 5 a 6 o 3:30 tan 4:30.

Cyfarfod i rieni plant blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw am 6 o'r gloch.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgbyl yr wythnos am 9:10 yb.
Clwb chwaraeon i flynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:
Clwb cyfansoddi amser cinio.
Clwb yr Urdd i flynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:
Ymarfer Côr Llanofer tan 5 o'r gloch.

Dydd Gwener:
Clwb darllen i flynyddoedd 5 a 6 amser cinio.
(Y plant i ddod â'u hoff lyfrau darllen i'r ysgol)

Cyfarfod Cyngor yr ysgol am 12:10.

PC Thomas yn dod i siarad gyda phlant blwyddyn 6 am seibr-fwlio.

Dydd Sadwrn:
Plant y côr yn canu yng nghanolfan siopa Cwmbrân am 12:40.

Dydd Sul:
Plant y côr yn canu yng ngwasanaeth Sul yr Urdd.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr