Penwythnos Llangrannog:

Penwythnos Llangrannog:

5th October 2010

Bydd plant o flynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Langrannog am y penwythnos.

Dyma ychydig o drefniadau ar gyfer y daith dydd Gwener:

•Byddwn yn gadael yr ysgol am 1 o’r gloch brynhawn dydd Gwener.
•Gall y plant ddod i’r ysgol wedi gwisgo yn eu dillad eu hunain.
•Bydd plant blwyddyn 5 yn rhoi eu bagiau yn y neuadd a phlant blwyddyn 6 yn eu rhoi yn yr ystafell TG.
•Gall y plant ddod â £10 i Langrannog, mewn punnoedd os yn bosib. Gall y plant gadw £1 arnyn nhw ar gyfer y gwasanaethau.
•Cofiwch labeli POB dilledyn gydag enw’ch plentyn.
•Cofiwch fod angen sach gysgu a chlustog ar eich plentyn.
•Bydd angen digon o ddillad sbâr a digon o ‘sanau sbâr arnynt.
•Does dim hawl gan unrhyw un i ddod â ‘straighners’ gyda nhw i Langrannog.
•Bydd unrhyw foddion, llythyron a phympiau asthma angen cael eu rhoi i Miss Passmore ar fore dydd Gwener. Cofiwch labeli popeth os gwelwch yn dda.
•Byddwn yn gadael Llanrannog ar ôl cinio ddydd Sul. Dylwn ni fod yn ôl yn yr ysgol erbyn 5:30. Gallwch ffonio ffon symudol yr ysgol ar ôl 3:30.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr