Trefniadau'r wythnos:

Trefniadau'r wythnos:

18th September 2010

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn yr ysgol yr wythnos hon:

Nos Fawrth:
Clwb chwaraeon ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:
Bydd etholiadau'r cyngor a'r prif fachgen/prif ferch yn cael eu cynnal yn yr ysgol ddydd Gwener.

Nodyn atgoffa:
Gofynnwn yn garedig i chi dalu gweddill yr arian ar gyfer Llangrannog (blynyddoedd 5 a 6) erbyn yr 8fed o Hydref os gwelwch yn dda. Bydd cyfarfod i rieni'r plant sy'n mynd i Langrannog ar y 29ain o Fedi am 5:30.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr