Croeso'n ôl

Croeso'n ôl

9th September 2010

Croeso yn ôl i bawb ar ôl y gwyliau hir. Mi fyddwch yn derbyn llythyr yr wythnos nesaf gyda rhai o ddyddiadau a digwyddiadau pwysig y tymor. Mi fyddwn yn ychwanegu at y rhain yn ystod y tymor ac yn rhoi’r wybodaeth ar wefan yr ysgol yn wythnosol.

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol C.Rh.A Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn yr ysgol ar nos Fawrth y 14eg o Fedi am 6 o’r gloch. Croeso i bawb.

Croesawn Mr Geraint Passmore a Miss Katie Thomas i’n teulu mawr yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Bydd Geraint yn dechrau ei yrfa fel athro gyda ni ym Mlwyddyn 4/3 a bydd Katie yn dysgu yn y Dosbarth Derbyn.

Cynhelir Clwb Chwaraeon ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 o ddydd Mawrth y 14eg o Fedi (tan 4.30pm).

Cynhelir gwasanaeth ‘Disgybl yr Wythnos’ ar fore Ddydd Mawrth am 9.10am.

Bydd Coleg Gwent yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg yn yr ysgol yn wythnosol i’r rhieni. Bydd y dosbarth yn dechrau ar ddydd Iau y 16eg o Fedi (4pm-6pm). A fwy o fanylion cysylltwch â Ffion Green (01495 333711).

Dyddiau cau ar gyfer hyfforddiant i’r staff
11eg o Hydref, 2010 / 11th of October, 2010
1af o Dachwedd, 2010 /1st of November, 2010


^yn ôl i'r brif restr