Dechrau'r tymor:

Dechrau'r tymor:

8th September 2010

Croesawn bawb yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dyma ychydig o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd dros yr wythnosau nesaf:

Clwb chwaraeon:

Bydd y Clwb Chwaraeon yn dechrau wythnos nesaf ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6. Cynhelir y clwb ar nos Fawrth, tan 4:30, a'r chwaraeon ar gyfer yr hanner tymor yw pêl-droed.

Aelodaeth yr Urdd i flynyddoedd 3, 4, 5 a 6:

Mae llythyron wedi cael eu dosbarth am aelodaeth yr Urdd eleni. (Y gost am y flwyddyn yw £6 cyn hanner tymor a £6.50 ar ôl hanner tymor)
Bydd Clwb yr Urdd yn ail-ddechrau ar y 6ed o Hydref. Cyn y dyddiad hwn, gofynnwn yn garedig i chi dalu am aelodaeth eich plentyn os ydynt am fynychu'r clwb.

6ed o Hydref: Blynyddoedd 3 a 4.
13eg o Hydref: Blynyddoedd 5 a 6.

Cyfarfod C.RH.A:
Cynhelir cyfarfod C.Rh.A ar nos Fawrth, y 14eg o Fedi am 6 o'r gloch. Croeso i bawb.

Llangrannog:
Mae rhai o blant blynyddoedd 5 a 6 yn mynd ar daith i Langrannog am benwythnos ar yr 8fed o Hydref. Cost y daith yw £100 felly gofynnwn yn garedig i'r arian gael ei dalu erbyn yr wythfed. Byddwn yn rhoi manylion pellach a thaflen feddygol i'r rheiny sy'n mynd ar y daith ar ôl i ni dderbyn y manylion gan yr Urdd.

Byddwn yn diweddaru'r wefan yn wythnosol gyda digwyddiadau'r wythnos.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr