Trefniadau'r Wythnos:
10th July 2015
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
** Does dim clybiau ar ol ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **
Dydd Llun:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw heddiw i gymryd rhan yn eu mabolgampau. Bydd angen cinio, digon o ddwr ac eli haul arnynt os gwelwch yn dda. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff.
Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth Disgybl yr wythnos.
Bydd y disgyblion yn treulio rhan o'r bore yn eu dosbarthiadau newydd heddiw.
Golff i ddisgyblion blwyddyn 6 yn y Prynhawn.
Dydd Mercher:
Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar yr iard prynhawn 'ma yn lle nos Wener.
Bydd stondin eiddo collar yr iars heddiw yn ogystal.
Dydd Iau:
Gwasanaeth Gadael Blwyddyn 6.
(09:30 yn neuadd yr ysgol.)
Prawf Beicio am 1:30.
Bowlio i ddisgyblion blwyddyn 6 ar ol ysgol.
4:30 - 6 yn Bowlplex, Cwmbrân.
Dydd Gwener:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain heddiw.
Diwrnod ola'r flwyddyn. Bydd y disgyblion yn gorffen am 2 o'r gloch heddiw.
** Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod pob llyfr darllen wedi ei ddychwelyd erbyn dydd Gwener os gwelwch yn dda. **
** Gofynnwn yn garedig i bawb ddod â bag ar y diwrnod olaf er mwyn sicrhau bod rhywbeth i gario llyfrau ayyb adref. Diolch. **
Mwynhewch y gwyliau. Byddwn yn dechrau'n ol yn yr ysgol ar ddydd Iau, Medi'r 3ydd.
Diolch yn fawr.