Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

2nd July 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesa:

Dydd Llun:

Bydd Miss Rhian James a disgyblion blwyddyn 7 yn dod I wneud sesiwn Hawl i Holi gyda disyblion blwyddyn 6 heddiw.

Dim clwb drama heno.

Dydd Mawrth:

Dim gwasanaeth Disgybl yr wythnos.

Dim clybiau ar ol ysgol heno ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.

Arddangosfa Gelf yn y neuadd.
Dewch i weld gwaith eich plentyn / plant yn neuadd yr ysgol o 3 o'r gloch ymlaen.

Dydd Mercher:

Gwasanaeth dosbarth Mr Rock a Miss Wena Williams.
09:30 yn neuadd yr ysgol.

Ymarfer rygbi ar gyfer blynyddoedd 4 a 5 yn ystod amser cinio.
(Gofynnwn yn garedig i chi ddod â gwisg ymarfer corff os gwelwch yn dda.)

Clwb yr Urdd Blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
** Dyma fydd yr un olaf eleni. **

Dydd Iau:

Picnic Plant y Meithrin.

Jambori yr Urdd ar gyfer plant blwyddyn 2.

Taith Blynyddoedd 3 a 4.
Gofynnwn yn garedig i'r plant ddod â phecyn cinio a digon o ddwr gyda nhw heddiw.
Bydd angen i'r rhai sy'n dioddef o asthma ddod â phwmp gyda nhw.

Dim gwers nofio heddiw.

Dim ymarfer côr.

Disgo gadael.
6-7 yn neuadd yr ysgol.

Cystadleuaeth Hoci ar gyfer y timoedd hoci.
3-5 yn Stadiwm Cwmbrân.

Dydd Gwener:
Gall disgyblion dosbarth Miss Heledd Williams wisgo dillad eu hunain heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer Mehefin.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr