Taith Llangrannog Blynyddoedd 5 a 6 - Blaen rybudd:

Taith Llangrannog Blynyddoedd 5 a 6 - Blaen rybudd:

2nd July 2015

Bydd llythyr yn mynd adref gyda disgyblion blynyddoedd 4 a 5 heno yn rhoi gwybodaeth am daith Llangrannog.

Bob blwyddyn, mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd ar daith i Langrannog sef gwersyll yr Urdd yng Ngorllewin Cymru. Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o’r holl ysgolion Cymraeg sy’n bwydo Gwynllyw yn mynd ar y daith. Eleni, mae’r daith penwythnos i Langrannog rhwng yr 02 a’r 04 o Hydref. Cost y daith fydd £140 a bydd hwn hefyd yn cynnwys cost aelodaeth yr Urdd, sef £6.50, am y flwyddyn. Yn gynwysedig yn y pris hwn bydd holl fwyd y penwythnos, yswiriant, costau teithio, dros ddeg o weithgareddau a dwy noson yn y gwersyll.

Byddwn yn casglu blaendal ar ddechrau mis Medi a byddwn yn gofyn am weddill yr arian cyn i ni fynd. Bydd y disgyblion yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau dros y penwythnos megis sgïo, gwibgartio, nofio, merlota, saethyddiaeth ayyb. Gofynnwn yn garedig am flaendal o £30 cyn dydd Gwener, y 11eg o Fedi. Byddwn yn danfon llythyr arall ym mis Medi yn eich atgoffa ac yn cynnwys slip ayyb.

Os oes cwestiwn gyda chi am Langrannog, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr