Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

26th June 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesa:

Dydd Llun:

Clwb drama i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
** Dyma fydd y clwb drama olaf ar gyfer eleni. **

Bydd caffi dosbarth Miss Griffiths ar agor ar gyfer neiniau a theidiau rhwng 09:45 a 10:30. Dewch i gefnogi.

Bydd rhai disgyblion o ddosbarthiadau Miss Owen a Mrs Spanswick yn mynd i SPAR heddiw.

Dydd Mawrth:

Bydd dosbarth Miss Griffiths yn ymweld â Discount Tyres heddiw.

Bydd dosbarthiadau Miss Hughes a Miss Faulknall yn ymweld â'r orsaf dân leol.

Dim gwasanaeth Disgybl yr wythnos.

Clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 tan 4:30.
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

** Bydd yr adroddiadau yn cael eu danfon adref heno. Bydd eich plentyn hefyd yn derbyn llythyr yn nodi enw ei athro / athrawes newydd. **

Bydd caffi dosbarth Miss Griffiths ar agor ar gyfer neiniau a theidiau rhwng 09:45 a 10:30. Dewch i gefnogi.

Bydd dosabrth Miss Williams yn mynd ar daith i Tyles Ahead heddiw.

Bydd dosbarthiadau Mr Bridson a Mr Rock yn ymweld â Stadiwm Cwmbrân heddiw.

Ymarfer rygbi ar gyfer blynyddoedd 4 a 5 yn ystod amser cinio.
(Gofynnwn yn garedig i chi ddod â gwisg ymarfer corff os gwelwch yn dda.)

Clwb yr Urdd Blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Bydd rhai disgyblion o ddosbarthiadau Miss Owen a Mrs Spanswick yn mynd i SPAR heddiw.

Dydd Iau:

Bydd caffi dosbarth Miss Griffiths ar agor ar gyfer neiniau a theidiau rhwng 09:45 a 10:30. Dewch i gefnogi.

Dim gwers nofio heddiw.

Bydd dosbarth Miss Wena Williams yn ymweld â Pets at Home.

Dim ymarfer côr.

Dydd Gwener:

Bydd dosbarth Miss Heledd Williams yn mynd i ymweld â Sainsbury's heddiw.

Bydd dosbarth Mrs Sennitt yn ymweld â'r Swyddfa Bost heddiw.

Bydd dosbarth Miss Faulknall yn perfformio'r ffildil i rieni / gwarchodwyr heddiw am 09:15.
Croeso cynnes i bawb.

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.

Ffair haf am 3:30 yn yr ysgol.
Dewch i gefnogi.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr