Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

19th June 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos yma:

Dydd Llun:

Taith dosbarthiadau Mrs Sennitt, Miss Osborne, Miss Hughes a Miss Faulknall i Acwariwm Bryste.
Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion ddod yn eu gwisg ysgol os gwelwch yn dda. Bydd angen pecyn cinio a digon o ddwr.

Clwb drama i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Dim gwasanaeth Disgybl yr wythnos.

Ymweliad gan nyrs yr ysgol i weld merched blwyddyn 5 a bechgyn a merched blwyddyn 6.

Clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 tan 4:30.
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Noson Agored i rieni newydd y feithrin.
(6-7 yn neuadd yr ysgol.)

Cyfarfod i rieni blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.
6 o'r gloch.

Dydd Mercher:

Ymarfer rygbi ar gyfer blynyddoedd 4 a 5 yn ystod amser cinio.
(Gofynnwn yn garedig i chi ddod â gwisg ymarfer corff os gwelwch yn dda.)

Clwb yr Urdd Blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw am ddiwnrod o wersi. Bydd angen iddynt wisgo gwisg yr ysgol os gwelwch yn dda.
Bydd angen pecyn cinio arnynt ar y diwrnod yn ogystal.

Dydd Iau:

Gwasanaeth dosbarthiadau mr Bridson a Mr Passmore.
09:30 yn neuadd yr ysgol.

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Wena Williams.

Ymarfer côr tan 4:30.

Cystadeuaeth Hoci i'r tim yn Stadiwm Cwmbrân rhwng 3 a 5.
(Llythyr i ddilyn)

Dydd Gwener:

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr