Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

31st May 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Llongyfarchiadau i ddosbarth Miss Wena Williams am ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mai. Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain i'r ysgol ddydd Gwener.

Fydd dim clybiau ar ol ysgol yr wythnos hon, ar wahân i glwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
Bydd Clwb Plant y Tri Arth ymlaen fel arfer.

Llongyfarchiadau i bawb gystadlodd yn yr Eisteddfod. Rydym yn falch iawn o bob un o'r disgyblion. Da iawn chi.

Dydd Llun:

Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol heddiw.

Dim Clwb drama.

Dydd Mawrth:

Dim clybiau ar ol ysgol ar wahân i glwb beicio blwyddyn 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

Cyfarfod PTA ar ôl ysgol am 3:30.
Croeso cynnes i bawb.

Dim Clwb yr Urdd.

Dydd Iau:

Gwasanaeth dosbarthiadau Miss Hughes a Miss Faulknall.
9:30 yn neuadd yr ysgol.

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Wena Williams.

Dim ymarfer côr.

Dydd Gwener:

Gall disgyblion dosbarth Miss Wena Williams wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw.

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)

Stondin Hufen Iâ:
Bydd y PTA cynnal stondin hufen iâ ar iard yr adran iau ar ol ysgol dydd Gwener. Dewch i gefnogi!

** Cofiwch bod trip diwedd blwyddyn blynyddoedd 5 a 6 dydd Mawrth nesaf. Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y slip a'r arian cyn y daith os gwelwch yn dda. **

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr