Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

14th May 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos nesaf:

Llongyfarchiadau i ddosbarth Mr Rock am ennill presenoldeb yr wythnos wythnos diwethaf gyda 98%. Da iawn chi.

Dydd Llun:
Clwb drama ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Disgybl yr Wythnos.
(9:10 yn neuadd yr ysgol.)

Clybiau ar ôl ysgol:

Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 2 tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

Bydd PC Thomas yn ymweld gyda dosbarthiadau Mr Rock a Mr Bridson heddiw.

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

** Dim ymarfer Cyflwyniad Dramatig gan fod cyngerdd heno. **

Cyngerdd yr Eisteddfod:
Bydd y gyngerdd rhwng Ysgol Panteg a ni yn digwydd nos Fercher yn Theatr y Congress rhwng 6:00 a 7:30. Bydd pawb sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod yn perfformio yn y gyngerdd.
Mae tocynnau ar werth gyda Ms Painter am £3.

Dydd Iau:

Gwasanaeth dosbarthiadau Mrs Sennitt a Miss Osborne.
9:30 yn neuadd yr ysgol.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i weld y ddrama 'Wings to Fly' fore dydd Iau rheng 9:30 ac 11:30.

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Owen.

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Gwener:

Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdy ar e-ddiogelwch gyda disgyblion blwyddyn 6 bore 'ma am 9:30.

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)

Stondin Hufen Iâ:
Bydd y PTA cynnal stondin hufen iâ ar iard yr adran iau ar ol ysgol dydd Gwener. Dewch i gefnogi!

** Byddwn yn gorffen ar gyfer wythnos o hanner tymor heddiw. Bydd y disgblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Mehefin 1af. **

Os ydych yn edrych am rywbeth i'w wneud dros hanner tymor, cofiwch bod Eisteddfod Genedlaethol yr urdd yn dod i Gaerffili yn ystod hanner tymor. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y linc isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr