Eisteddfod yr Urdd, Caerffili 2015:

Eisteddfod yr Urdd, Caerffili 2015:

14th May 2015

Mae Eisteddfod yr Urdd yn dod i Gaerffili yn ystod wythnos hanner tymor.

Os ydych chi'n edrych am rywbeth i'w wneud dros hanner tymor, ewch i ymweld â maes Eisteddfod yr Urdd 2015.

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2015 yn cael ei chynnal ar dir Llancaiach Fawr ger Nelson, Caerffili. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw i’r ardal a chael blas o awyrgylch unigryw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Digwyddiadau ar y Maes:

O amgylch y Pafiliwn mae cannoedd o stondinau lliwgar yn gwerthu nwyddau a chynnig llu o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan – o wal ddringo a sesiynau chwaraeon i ffair, bandiau byw a sioeau i blant.

Stondinau:

Mae nifer helaeth o gwmnïau a sefydliadau yn arddangos, gwerthu cynnyrch neu yn cynnal digwyddiadau ar eu stondinau yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae yna gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai coginio, canu a dawnsio gyda chymeriadau, gweithdai celf, peintio wynebau a llawer mwy!

Mae hefyd digon o amrywiaeth bwyd a diod ar gael at ddant pawb ar y Maes.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr