Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: Mai 25ain – Mai 30ain:

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: Mai 25ain – Mai 30ain:

23rd March 2015

Fel rydych yn gwybod, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd yn ystod wythnos hanner tymor ar ddiwedd mis Mai.

Perfformiodd y disgyblion yn wych ddydd Sadwrn ac edrychwn ymlaen yn fawr at fynd i’r Genedlaethol. Mae’r cystadlaethau cynradd i gyd yn cymryd rhan ar y dydd Llun a dydd Mawrth. Lleoliad yr Eisteddfod eleni yw Llancaeach Fawr, ger Caerffili.

Isod, ceir rhestr o’r holl gystadlaethau sydd wedi mynd ymlaen i’r Genedlaethol a’r diwrnodau maent yn cystadlu:

Dydd Llun, Mai 25ain:
Ensemble

Dydd Mawrth, Mai 26ain:
Unawd 5 a 6
Deuawd
Parti Unsain
Parti Deulais
Côr
Ymgom
Cyflwyniad Dramatig

Byddwn yn prynu tocynnau i'r rhai sy'n cystadlu.

Os hoffech chi brynu tocynnau eich hunain, edrychwch ar y wefan isod am fwy o wybodaeth.

Byddwn yn danfon mwy o wybodaeth yn agosach at yr amser.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr