Eisteddfod Gylch yr Urdd:

Eisteddfod Gylch yr Urdd:

7th March 2015

Da iawn i bawb gymerodd rhan yn yr Eisteddfod Gylch yn Llanwern heddiw.

Perfformiodd pawb yn wych ac rydym ni'n falch iawn o'r disgyblion i gyd.

Bydd y rhai ddaeth yn gyntaf neu'n ail yn mynd ymlaen i gynrychioli'r cylch yn yr Eisteddfod Sir.

Dyma'r canlyniadau:

Unawd 5 a 6:

1af: Daniel Lee
2il: Naomi Nicolaou

Alaw Werin:

3ydd: Martha Smith

Llefaru 3 a 4:

2il: Megan Teague

Y ddeuawd:

2il: Martha a Daniel
3ydd: Nell a Naomi

Parti Unsain: 1af

Parti Llefaru: 1af

Yr ymgom: 1af

Da iawn i bob un. Rydych wedi bod yn weithgar iawn dros yr wythnosau diwethaf ac rydym ni'n gwerthfawrogi eich gwaith caled yn fawr.

Byddwn yn gwybod mwy am yr Eisteddfod Sir erbyn diwedd yr wythnos gobeithio. Bydd y Sir yn digwydd ar ddydd Sadwrn, Mawrth 21ain yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

(Edrychwch ar y linc isod er mwyn gweld lleoliad yr ysgol.)

Da iawn i chi gyd unwaith eto a diolch yn fawr i chi rieni am yr holl gefnogaeth gyda'r ymarferion.

Diolch yn fawr a da iawn!


Related Links


^yn ôl i'r brif restr