Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

6th March 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Llongyfarchiadau mawr i ddosbarth Miss Faulknall am ennill presenoldeb yr wythnos eto'r wythnos hon gyda 100%. Da iawn i bob un.

Dydd Llun:

Clwb drama ar gyfer disgyblion 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth disgybl yr wythnos.
9:10 yn neuadd yr ysgol.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Crucial Crew heddiw. (12:15 - 2:30)
Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion ddod â phecyn cinio heddiw gan ein bod yn gadael yn ystod amser cinio.)

Clybiau:
Dawnsio Creadigol tan 5.
Pêl droed blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 yn yr ysgol.
Gwnio blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb Ffitrwydd blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Cyfarfod PTA.
3:30 yn y llyfrgell. Croeso cynnes i bawb.

Dydd Mercher:

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Clwb yr Urdd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Owen.
(Bl 4/5)

Ymarfer dawnsio creadigol amser cinio.
(Bydd angen dillad addas os gwelwch yn dda.)

Ymarfer côr tan 4:30.

Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.

Dydd Gwener:

Diwrnod y Trwynau Cochion:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain heddiw os ydynt yn dymuno.

Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)

Bydd plant dosbarth Miss Faulknall yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:15 - 10:30)

Twrnament Rygbi a Phel-rwyd.
(Llythyr i ddilyn.)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr