Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

28th February 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:

Byddwn yn dathlu Dydd Gwyl Ddewi heddiw. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu gwisgoedd traddodiadol, cit rygbi / pel-droed ayyb.

Clwb drama ar gyfer disgyblion 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth disgybl yr wythnos.
9:10 yn neuadd yr ysgol.

Clybiau:
Dawnsio Creadigol tan 4:30.
Pêl droed blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 yn yr ysgol.
Gwnio blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb Ffitrwydd blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Clwb yr Urdd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:

Diwrnod y Llyfr:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol fel cymeriad o lyfr heddiw os ydynt yn dymuno.

Os oes hoff lyfr gyda nhw, gallant ddod â'r llyfr hwnnw i'r ysgol hefyd.

Bydd criw ffimlio o raglen Heno ar S4C yn dod i'r ysgol heddiw er mwyn gwneud eitem ar ddiwrnod y llyfr. Os nad ydych chi'n hapus i'ch plentyn fod at y teledu, cysylltwch gydag athro / athrawes eich plentyn os gwelwch yn dda.

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Owen.
(Bl 4/5)

Ymarfer dawnsio creadigol amser cinio.
(Bydd angen dillad addas os gwelwch yn dda.)

Ymarfer côr tan 4:30.
Cyngerdd Cor yn Theatr y Congress, Cwmbran am 6 o'tr gloch. Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion fod yno erbyn 5:30.
(Mae tocynnau ar gael yn y dderbynfa.)

Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.

Dydd Gwener:

Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)

Bydd plant dosbarth Miss Faulknall yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:15 - 10:30)

Gall blant dosbarth Miss Faulknall wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw hefyd os ydynt yn dymuno. Nhw oedd enillwyr presenoldeb y mis ar gyfer mis Chwefror, gyda 99%. Da iawn i bob un.

Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Gylch yr Urdd.
Ni fyddwn yn derbyn rhaglen tan ddydd Llun felly ni fyddwn yn gwybod pa gystadleuathau sy'n mynd yn syth i'r Sir tan hynny.

Os ydych eisiau cyfarwyddiadau i Ysgol llanwern, edrychwch ar y linc isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr