Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

6th February 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Llongyfarchiadau mawr i ddosbarth Miss Osborne am ennill presenoldeb yr wythnos wythnos diwethaf. Da iawn chi.

Dydd Llun:

Trip Blynyddoedd 1 a 2 i Sain Ffagan.
Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol heddiw. Gofynnwn yn garedig iddynt ddod â phecyn cinio, cot law ac esgidiau addas os gwelwch yn dda.

Clwb drama ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Diwrnod E-ddiogelwch:

Bydd disgyblion CA2 yn derbyn gweithdy e-ddiogelwch gan PC Thomas prynhawn 'ma.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn rhoi gwersi ar e-ddiogelwch i bob dosbarth.

Bydd cyfarfod i rieni / gwarchodwyr ar ol ysgol gyda PC Thomas yn nosbarth Miss Passmore am 3:30.

Clybiau:
Dawnsio Creadigol tan 4:30.
Pêl droed blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 yn yr ysgol.
Gwnio blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb Ffitrwydd blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

Noson Rieni.

Bydd Miss James a Miss Rogers o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 am 1 o'r gloch heddiw.

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Clwb yr Urdd 3 a 4 tan 4:30.
(Bydd Clwb yr Urdd yn dal i redeg er bod noson rieni.)

Dydd Iau:

Ymarfer dawnsio creadigol amser cinio.
(Bydd angen dillad addas os gwelwch yn dda.)

Fydd dim ymarfer côr heddiw gan fod noson rieni.

Noson Rieni.

Dydd Gwener:

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)

Bydd y PTA yn cynnal stondin eiddo coll ar yr iard am 3:30.

Hanner Tymor: Chwefror 16 - 20.
Dydd Llun, Chwefror 23ain - HMS.
Fydd dim ysgol i'r disgyblion heddiw.
Bydd y disgyblion yn dechrau'n ol ar ddydd Mawrth, Chwefror 24ain.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr