Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

1st February 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dyddiadau pwysig:
Chwefror 10fed: Diwrnod E-ddiogelwch.
(Cyfarfod i rieni gyda PC Thomas am 3:30)
Chwefror 11: Noson Rieni.
Chwefror 12: Noson Rieni.
Chwefror 13: Bydd y PTA yn cynnal stondin eiddo coll am 3:30.
Hanner Tymor: Chwefror 16 - 20.
Dydd Llun, Chwefror 23ain - HMS.
Fydd dim ysgol i'r disgyblion heddiw.
Bydd y disgyblion yn dechrau'n ol ar ddydd Mawrth, Chwefror 24ain.

Dydd Llun:

Bydd cwmni 'Ric ar do' yn cynnal gweithdy cerdd gyda phob dosbarth heddiw. Bydd cyfle i bob dosbarth berfformio i weddill yr ysgol ar ddiwedd y dydd.

Clwb drama ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Clybiau:
Dawnsio Creadigol tan 4:30.
Pêl droed blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 yn yr ysgol.
Gwnio blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb Ffitrwydd blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Does dim cyfarfod PTA heno. Mae'r cyfarfod wedi'i ohirio tan ar ol hanner tymor.

Dydd Mercher:

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Clwb yr Urdd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

Gwers nofio blwyddyn 4.

Ymarfer dawnsio creadigol amser cinio.
(Bydd angen dillad addas os gwelwch yn dda.)

Ymarfer côr tan 4:30.

Disgo PTA yn yr ysgol o 6 tan 7.
£1 i bob disgybl.

Dydd Gwener:

Gall blant dosbarth Miss Enfys Owen (Derbyn) wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer Ionawr gyda 99%. Da iawn!

Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn perfformio i'w rhieni / gwarchodwyr am 9:10 fore dydd Gwener ar ol derbyn gwersi ffidil am dymor.

Tro dosbarth Miss Faulknall yw hi nesaf!

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr