Diwrnod E-ddiogelwch 2015:

Diwrnod E-ddiogelwch 2015:

1st February 2015

Byddwn yn dathlu diwrnod e-ddiogelwch yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Chwefror 10fed.

Mae e-ddiogelwch yn bwnc pwysig iawn a rhaid i'r ysgol weithio gyda rhieni / gwarchodwyr er mwyn i ni sicrhau bod pob disgybl yn defnyddio'r we mewn ffordd saff ac addas.

Ar y diwrnod hwn, bydd y disgyblion yn derbyn gwasanaeth ysgol gyfan ar e-ddiogelwch yn y bore. Bydd y disgyblion wedyn yn derbyn gwersi ar e-ddiogelwch gan ddisgyblion blwyddyn 6 sydd wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn paratoi adnoddau a chyflwyniadau.

Yn y prynhawn, bydd disgyblion CA2 yn derbyn gweithdy ar e-ddiogelwch gan PC Thomas.

Ar ol ysgol, bydd cyfarfod ar gyfer rhieni / gwarchodwyr ar e-ddiogelwch gyda PC Thomas. Mae'r cyfarfod yn dechrau am 3:30 a bydd yn cael ei gynnal yn nosbarth Miss Passmore. Bydd y cyfarfod yn para llai na awr ac mae'n cyfarfod cynhwysfawr iawn fel arfer.

Os hoffech mwy o wybodaeth ar e-ddiogelwch, edrychwch ar y linc isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr