Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

16th January 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Llongyfarchiadau i ddosbarth Miss Faulknall am ennill presenoldeb yr wythnos wythnos diwethaf.

Dydd Llun:
Bydd Cynllun Gwen yn dechrau heddiw felly bydd plant y Cyfnod Sylfaen yn brwsio eu dannedd ar ol cinio bob dydd o heddiw ymlaen.
(Gofynnwn yn garedig am yr holl ffurflenni yn ol erbyn heddiw os gwelwch yn dda.)

Clwb drama ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mawrth:

Clybiau:
Dawnsio Creadigol tan 4:30.
Pêl droed blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 yn yr ysgol.
Gwnio blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb Ffitrwydd blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Clwb yr Urdd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

Ymarfer dawnsio creadigol amser cinio.
(Bydd angen dillad addas os gwelwch yn dda.)

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
(1-2:30)

Dydd Sadwrn:

Rownd Genedlaethol Gala Nofio'r Urdd.
Bydd disgybl o flwyddyn 4 yn cynrychioli Torfaen yn y rownd derfynol felly dymunwn pob llwyddiant iddo fe ddydd Sadwrn.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr