Canllawiau Eira:

Canllawiau Eira:

13th January 2015

Dyma'r canllawiau mewn achosion o eira trwm:

Mewn achos o eira trwm, byddwn yn cyfathrebu i rieni statws yr ysgol cyn gynted ag y bo modd drwy gyfrwng y canlynol:

- Schoop
- Gwefan yr ysgol (www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk)
- BBC Radio Cymru / Wales
- Red Dragon Radio
- Gwefan Torfaen www.torfaen.gov.uk

Os yw’r amodau’n beryglus, bydd y giatiau blaen ar gau i gerbydau a bydd un llwybr yn cael ei glirio ar gyfer yr holl gerddwyr i gael mynediad i'r safle trwy'r giât sydd wrth ymyl y brif fynedfa/swyddfa (yn ymyl yr ardd). Bydd yr holl giatiau eraill ar gau. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi drwy'r wefan, os bydd unrhyw newid yn amser dechrau’r ysgol h.y oes yw’r amodau’n ddifrifol iawn bydd angen amser ychwanegol i sicrhau bod y llwybr i'r ysgol yn ddiogel a niferoedd digonol o staff ar y safle i ddarparu ar gyfer y disgyblion.

Os nad yw’r safle’n ddiogel bydd yr ysgol yn cael ei gau yn dilyn trafodaethau terfynol rhwng y Pennaeth, Swyddogion Neuadd y Sir a Chadeirydd y Llywodraethwyr.

Diolch am eich cydweithrediad.


^yn ôl i'r brif restr