Newyddion yr Hanner Tymor:

Newyddion yr Hanner Tymor:

8th December 2014

Dyma rai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân dros yr wythnosau diwethaf:

Casglu Arian:
PTA: Mae’r PTA wedi casglu dros £1100 drwy’r ffair Nadolig, gwefan Easyfundraising a’r cardiau Nadolig. Diolch yn fawr iawn i bob un am ei waith caled.

Easyfundraising: Mae 94 wedi ymuno gyda Easyfundraising hyd yn hyn, gyda dros £220 wedi’i gasglu ar gyfer yr ysgol. Mae’n hawdd ac yn rhad i fod yn rhan o’r ymgyrch felly, os nad ydych wedi gwneud eto, ewch i www.easyfundraising.org.uk a chefnogwch Ysgol Gymraeg Cwmbrân PTA os gwelwch yn dda.

Tripiau:
Aeth CA2 i Gaerleon i ddysgu am y Celtiaid a’r Rhufeiniaid.

Cystadlaethau:
Gala Nofio yr Urdd: Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan. Bydd Dewi Rosser o flwyddyn 4 yn mynd ymlaen i gynrychioli Torfaen yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd ym mis Ionawr.

Mae’r tîm rygbi wedi cymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth; cystadleuaeth yr Urdd a Phontypwl.

Mwynhaodd 59 disgybl o flynyddoedd 5 a 6 daith i Langrannog ym mis Tachwedd. Cawsant gyfle i gwrdd â disgyblion blwyddyn 6 eraill fydd yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Clybiau:
Dyma’r clybiau sy’n bodoli ar y funud:
Gwnïo (Bl.2) Clwb yr Urdd (CA2) Côr (CA2) Gwyddbwyll (5 a 6) Drama (5 a 6) Rygbi (5 a 6) Clwb Ffitrwydd (4, 5 a 6)
Bydd clwb pêl-droed ar ôl Nadolig.

Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor:
Rydym wedi ennill y Faner Werdd fel ysgol. Diolch yn fawr iawn i Miss Enfys Owen am ei gwaith caled gyda’r eco-bwyllgor.

Mae Cyngor yr ysgol wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod y tymor. Maen nhw wedi trefnu cystadleuaeth poster ‘golchi dwylo’ ar draws yr ysgol a chasglon nhw dros £40 yn y ffair Nadolig. Diolch i Mrs Spanswick a Mr Bridson am eu gwaith gyda’r cyngor.

SCHOOP:
Mae App newydd o’r enw SCHOOP wedi cael ei lawnsio yn yr ysgol. ID yr ysgol yw 10319. Rydym yn gobeithio gohebu trwy’r app hwn llawer mwy yn y dyfodol agos. Bydd y wefan yn parhau i gael ei diweddaru’n wythnosol. Mae unrhyw ddyddiadau pwysig wedi’u nodi yn y calendr ar Schoop.

Presenoldeb:
Ein presenoldeb hyd yn hyn yw 95.5%. Rydym yn dal i anelu’n uwch na 96% ar gyfer y flwyddyn.

Côr yr ysgol:
Mae côr yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tymor. Maent wedi bod yn canu mewn cyngerdd yn St Gabriel ac maent yn edrych ymlaen yn barod at gael yr Eisteddfod yng Nghaerffili flwyddyn nesaf!

Dyddiadau’r Eisteddfod:
Eisteddfod Gylch:
Dydd Sadwrn, Mawrth 7fed.
Eisteddfod Sir:
Dydd Sadwrn, Mawrth 21fed.
Eisteddfod Genedlaethol:
Wythnos olaf mis Mai. (25.5.2015)

Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i’r disgyblion ar ddydd Mawrth, Ionawr 6ed.


^yn ôl i'r brif restr