Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

6th December 2014

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:
Clwb drama ar ol ysgol i flynyddoedd 5 a 6.
(Tan 4:30)

Dydd Mawrth:

Bydd disgyblion CA2 yn mynd i'r Eglwys i ymarfer ar gyfer y gyngerdd Nadolig.
(10-2)

Clybiau ar ôl ysgol:
Clwb gwnïo ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30. (50c)
Clwb chwaraeon ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

Bydd disgyblion CA2 yn mynd i'r Eglwys i ymarfer ar gyfer y gyngerdd Nadolig.
(10-2)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)

Bydd tim pel-droed Casnewydd yn dod i'r ysgol i gynnal sesiwn ymarfer gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 6. (1:15 - 2:15)

Cyngerdd Nadolig CA2. Eglwys St. Gabriel am 6 o'r gloch. Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion fod yno erbyn 5:30 os gwelwch yn dda.

Dydd Iau:

Cyngerdd Nadolig y Cyfnod Sylfaen.
Perfformiad cyntaf - 10 o'r gloch.
Ail berfformiad - 2 o'r gloch.

Bydd y côr yn mynd i John Lewis, Caerdydd i ganu rhwng 10:30 ac 11:30. (Disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn unig.)

Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:
Diwrnod Gwisg Anffurfiol. Bydd unrhyw arian a gasglwyd yn mynd i Achub y Plant.

Gwasanaeth Nadolig y Cyfnod Sylfaen.
(10 o'r gloch yn y neuadd.)

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr