Gwasanaeth Nadolig Cyfnod Allweddol 2:

Gwasanaeth Nadolig Cyfnod Allweddol 2:

25th November 2014

Dyma nodyn i’ch hatgoffa bod ein gwasanaeth Nadolig ar nos Fercher, Rhagfyr 10fed yn Eglwys St. Gabriel am 6 o’r gloch. Gofynnwn yn garedig i’r disgyblion fod yno erbyn 5:30 os gwelwch yn dda.

Bydd y disgyblion yn ymgynnull yn y festri ac yn cael eu casglu o fan hyn ar ddiwedd y gwasanaeth yn ogystal. Bydd y gwasanaeth yn para tua awr gobeithio.

Gwisgoedd:
Bydd disgyblion blynyddoedd 3 i 5 yn gwisgo gwisg ysgol i wneud y gyngerdd. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau mai cardigan neu siwmper goch sydd gyda’r disgyblion, gan mai dyma yw gwisg yr ysgol. Gofynnwn yn garedig iddynt wisgo esgidiau du yn ogystal, nid ‘sgidiau ymarfer. Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn chwarae rhan cymeriadau stori’r geni ac rydym wedi siarad gyda bob un am ei wisg. Er mwyn cadw costau yn isel, rydym wedi ffeindio gwisgoedd ar gyfer y cymeriadau i gyd felly nid oes angen i chi brynu rhai. Yr unig rai rydym wedi cael trafferth ffeindio yw gwisgoedd ar gyfer y bugeiliaid. Hoffwn i’r disgyblion hyn wisgo rhyw fath o gwn nos. Os nad oes un gyda chi adref, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda a byddwn yn trio ein gorau i ffeindio rhai ar eu cyfer.

Yn arwain lan at y gwasanaeth Nadolig, byddwn yn cerdded i’r eglwys ar gyfer ymarferion. Rydych wedi rhoi eich caniatâd ar gyfer hwn ar ddechrau’r flwyddyn. Os nad ydych wedi gwneud hwn yn barod, gofynnwn yn garedig i chi adael i athro / athrawes eich plentyn wybod os gwelwch yn dda.

Gwasanaeth Nadolig Gwynllyw: (Blwyddyn 6 yn unig)
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn cymryd rhan yng ngwasanaeth Nadolig Gwynllyw ar y 15fed o Ragfyr. Byddant yn teithio ar fws i eglwys ym Mhontypwl. Ni fydd angen cinio arnynt ar y diwrnod hwn; dim ond gwisg ysgol. Rydych eisoes wedi rhoi caniatâd ar gyfer hwn ar ddechrau’r flwyddyn.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y gyngerdd Nadolig, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol os gwelwch yn dda. Os nad ydy eich plentyn yn gallu dod i’r gyngerdd am unrhyw reswm, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Diolch, Miss Passmore.


^yn ôl i'r brif restr