Trefniadau'r Eisteddfod:

Trefniadau'r Eisteddfod:

19th May 2014

Mae'r wybodaeth hon i'r rheiny sydd YN teithio i'r Eisteddfod gyda'r ysgol:

Mae’r Eisteddfod yn agosáu ac mae 22 o blant, ynghyd â deuddeg aelod o staff, yn teithio i’r Bala ar y bws ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2014. Byddwn yn gadael Ysgol Gymraeg Cwmbrân am 12 o’r gloch ar ddydd Llun, 26ain o Fehefin. Byddwn yn aros yn Llangollen sydd tua ugain munud i ffwrdd o’r Bala.

Byddwn yn dod yn ôl ar ddydd Mawrth, Mehefin 27ain ond does dim syniad gyda ni o’r amser gan ei fod yn dibynnu ar sut mae’r côr a’r parti llefaru yn gwneud yn yr Eisteddfod. Y cynharaf y byddwn ni yn ôl yn yr ysgol yw 5 o’r gloch. Gallwch ffonio ffon symudol yr ysgol ar ôl 4 ar y dydd Mawrth er mwyn cael syniad gwell.

Rydych wedi rhoi £30 tuag at y daith ac yn y pris hwn, bydd y disgyblion yn cael y pethau canlynol:

• Bwyd ar y nos Lun.
• Brecwast fore dydd Mawrth.
• Te ar y dydd Mawrth.
• Cyfraniad tuag at y bws a’r llety.

Rydym hefyd wedi talu i’r disgyblion fynd i mewn i faes yr Eisteddfod. Gall y disgyblion ddod ag arian gwario gyda nhw os ydynt yn dymuno. Bydd yr arian yn mynd tuag at ginio ar y maes ar y dydd Mawrth; unrhyw ddiodydd ychwanegol maent eu heisiau a thuag at unrhyw bethau yr hoffent brynu ar y maes. (Does dim angen mwy na £10) Os oes unrhyw anghenion bwyd gyda’r plentyn, gadewch i Miss Passmore wybod os gwelwch yn dda.

Os oes unrhyw foddion gyda chi, gofynnwn yn garedig i chi eu labelu nhw’n glir gydag enw eich plentyn a’u rhoi nhw i Miss Passmore ar y dydd Llun. Os ydy eich plentyn yn cymryd unrhyw dabledi teithio ayyb, rhaid nodi enw eich plentyn ar y bocs a rhaid derbyn llythyr caniatâd yn ogystal.

Trefniadau Cysgu:
Bydd y disgyblion yn cael eu rhoi mewn ystafelloedd o ddau, tri neu bedwar. Mae hwn wedi’i drefnu’n barod. Ni fydd angen sach gysgu ar y disgyblion ond bydd angen tywel ar bob un. Bydd angen digon o ddillad cynnes arnynt, cot law ac wrth gwrs, y wisg ysgol ar gyfer y perfformiad.

Os oes unrhyw gwestiynau eraill gyda chi, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.
Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr