Trefniadau'r Eisteddfod:

Trefniadau'r Eisteddfod:

19th May 2014

Dyma'r trefniadau ar gyfer y disgyblion sydd DDIM yn teithio gyda'r ysgol i'r Bala.

Rydych wedi nodi eich bod yn gwneud ffordd eich hunain i’r Eisteddfod ar ddydd Mawrth, Mehefin 27ain. Rydym wedi derbyn amser y ddau rhagbrawf sef:

Parti llefaru: 11 o’r gloch.
Côr: 1:20.

Byddwn yn cwrdd â’r disgyblion yn y neuadd gorawl awr cyn y ddau rhagbrawf felly byddwn yn cwrdd â’r parti llefaru am 10 o’r gloch a’r côr am 12:30. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn brydlon a chaniatáu digon o amser ar gyfer traffig ayyb o gwmpas y maes.

Os ydych chi eisiau unrhyw wybodaeth am yr Eisteddfod, ewch ar wefan yr Urdd sef www.urdd.org. Yno, ceir gwybodaeth am y lleoliad, prisoedd ayyb. Pan fyddwch yn mynd mewn i’r maes, byddwch yn derbyn map ac ar y map hwnnw, bydd lleoliad y neuadd gorawl.

Rhaid i bod disgybl wisgo gwisg yr ysgol ar gyfer cystadlu os gwelwch yn dda. Bydd disgyblion y parti llefaru yn gwisgo eu dillad du gyda chlogwyn.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi am yr Eisteddfod, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr