Cyfarfod Gwynllyw (7.4.2014):

Cyfarfod Gwynllyw (7.4.2014):

8th April 2014

Dyma rai o’r pethau a drafodwyd yn y cyfarfod ar gyfer rhieni neithiwr:

Y wisg ysgol:

Dosbarthwyd rhestr o’r wisg ysgol a’r wisg ymarfer corff i bawb ond pwysleisiwyd nad oes angen prynu’r wisg trwy Ysgol Gyfun Gwynllyw – gellid prynu eitemau o’r wisg mewn siopau eraill.

Os ydych chi eisiau archebu’r wisg trwy’r ysgol, danfonwch y ffurflen archebu yn ôl i Wynllyw.

Mae rhai eitemau o ddillad yn cael eu gwerthu yn y siop ‘Rugger bug’ yn Ystrad Mynach.

Taith i Lanllyn:

Rhoddwyd gwybodaeth am daith blwyddyn 7 i Lanllyn yn ystod wythnos gyntaf mis Medi. Cost y daith eleni yw £185 a bydd hwn yn cynnwys costau teithio, llety, bwyd a holl weithgareddau’r gwersyll.

Dyddiad i’w nodi:

Gwahoddir holl rieni’r ysgol i Ysgol Gyfun Gwynllyw ar nos Iau, Mehefin 26ain er mwyn talu am Lanllyn a thalu am y wisg ysgol ayyb.

Dylai pob un ohonoch chi dderbyn gwybodaeth am fws i’ch plentyn erbyn diwedd mis Mai.

Os ydych chi eisiau mwy o fanylion am unrhyw beth, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr