Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

6th April 2014

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw am y dydd i gymryd rhan mewn helfa drysor.
Bydd angen trainers ar y disgyblion. Nid oes angen pecyn cinio arnyn nhw. Bydd angen pwmp asthma ar reiny sy'n dioddef o asthma.

Cyfarfod i rieni am Ysgol Gyfun Gwynllyw:
Bydd cyfarfod i rieni blwyddyn 6 nos yfory yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân am 6 o'r gloch.

Cystadleuaeth Hetiau Pasg:
Os ydy plant y Cyfnod Sylfaen eisiau cymryd rhan mew cystadleuaeth hetiau pasg, rhoddir gwahoddiad iddynt ddod mewn â'u hetiau Pasg i'r ysgol yfory.

Dydd Mawrth:

Ymarfer pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn y Ffatri bêl-droed. (4-5)

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol tan 4:30.

Cwis 'Keep Me Safe'.

Dydd Iau:

Diwrnod Achub y Plant:
'Pan rydw i'n hyn, hoffwn fod yn .....'
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel rhwyun hoffen nhw fod pan maen nhw'n hyn.

Yn ystod y dydd, mae sawl rhiant yn dod mewn i'r ysgol i drafod eu swyddi / gyrfaoedd
gyda'r disgyblion. Diolch yn fawr iawn i Mrs Dalgleish am ei holl waith trefnu.

Dim ymarfer cor ar ol ysgol.

Dydd Gwener
Diwrnod HMS.
Fydd dim ysgol i'r disgyblion heddiw.

Tymor yr Haf:
Bydd tymor yr Haf yn dechrau ar ddydd Llun, Ebrill 28ain.


^yn ôl i'r brif restr