Streic yr NUT:

Streic yr NUT:

13th March 2014

Efallai eich bod yn gwybod bod yr NUT wedi pleidleisio i gynnal streic ar gyfer Dydd Mercher y 26ain o Fawrth.

Mae UCAC nawr wedi penderfynu peidio mynd ar streic ar y diwrnod yma ond fe fydd y streic yn parhau i gael effaith ar Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Bwriad y llythyr yw eich rhybuddio ymlaen llaw er mwyn i chi wneud trefniadau rhag ofn. Os na fydd streic yn mynd ymlaen, rhoddaf wybod i chi’n syth.

Y dosbarthiadau sydd i fod yn bresennol ar y dyddiad yma bydd :

Meithrin (Bore a Phrynhawn)
Dosbarthiadau - Miss Enfys Owen (Derbyn),
Mrs Rh Sennitt (Derbyn/Bl1),
Miss M Jones (Bl2),
Miss Heledd Williams (Bl3),
Miss Hazel Williams (Bl4)
Mr S Rock (Bl5/4)
Miss M Owen (Bl4/3)

Ni fydd ysgol ar gyfer gweddill y plant. Yn dilyn rheoliadau streic a gofynion iechyd a diogelwch fe fydd rhaid danfon plant adref, os ydynt yn dod i’r ysgol, gan na fydd goruchwyliaeth ar eu cyfer.

Diolch am eich cydweithrediad.


^yn ôl i'r brif restr