Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

9th March 2014

Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Dydd Llun:
Byddwn yn dathlu Diwrnod y Llyfr yn yr ysgol heddiw. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr. Bydd y disgyblion yn gwneud gwahanol weithgareddau darllen yn ystod y dydd.

Dydd Mawrth:

Ymarfer pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn y Ffatri bêl-droed. (4-5)

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:

Ymarfer i'r tim sy'n chwarae dydd Gwener yn yr ysgol tan 4:30.

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)

Dydd Iau:

Bydd Mr Evans yn gwneud gweithdy adeiladu bocsys nythod adar gyda disgyblion blwyddyn 6.
Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 5 o'r gloch.

Dydd Gwener:
Twrnament pel-droed ar gyfer disgyblion 4, 5 a 6. (9-3 yng Nghaerdydd.)
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i weithdy Crucial Crew sydd wedi'i drefnu gan Heddlu Gwent.
(Llythyr i fynd allan yfory.)

Cyngerdd Cor:
Cyngerdd sydd wedi'i threfnu gan Achub y Plant yn y Deml Heddwch, Caerdydd.

Bydd y disgyblion yn aros yn yr ysgol tan 5 a byddant yn canu o 6 tan 7 yn y Deml Heddwch. Byddan nhw'n ol yn yr ysgol erbyn 7:30 gobeithio.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr