Eisteddfod Gylch yr Urdd:

Eisteddfod Gylch yr Urdd:

2nd March 2014

Bydd rownd gyntaf yr Eisteddfod yn digwydd ddydd Sadwrn nesaf. (Mawrth 8fed)

Bydd llythyr yn mynd adref gyda'r disgyblion yfory yn rhestri'r holl eitemau fydd yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn. Bydd rhestr o'r holl ddisgyblion sy'n cymryd rhan yn ogystal.

Gofynnwn yn garedig i chi edrych yn ofalus ar y llythyr gan na fydd pob disgybl yn cymryd rhan ddydd Sadwrn. Bydd rhai yn mynd yn syth i'r rownd nesaf ar ddydd Sadwrn, Mawrth 29ain.

Bydd cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Ysgol Bro Helyg yn cael eu danfon adref yn ogystal.
(NP13 3DQ)

Bydd y disgyblion yn gwisgo'r wisg ysgol i berfformio yn yr Eisteddfod, yn cynnwys crys wen a thei yr ysgol.

Am fwy o fanylion neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr