Llyfrau i helpu eich plant:

Llyfrau i helpu eich plant:

30th January 2014

Ddydd Mercher, danfonwyd llythyr adref yn cynnwys ffurflen archeb ar gyfer llyfrau Cymraeg.

Mae’r llyfrau wedi eu cynllunio ar gyfer rhieni sydd ddim yn siarad Cymraeg a rhieni sydd yn siarad Cymraeg ac mae pob llyfr â chanllawiau Saesneg ar gyfer rhieni.

Y llyfrau yw ‘Adnabod llythrennau’, ‘Deall geiriau’, ‘Creu brawddegau’ a ‘Magu Hyder’. Rydym wedi cysylltu gyda siop yng Nghaerdydd ac rydym yn mynd i archebu rhai i rieni sydd eu heisiau.

Cost y llyfrau yw £4.99 yr un. Os ydych eisiau prynu copi o un o’r llyfrau neu pob un, danfonwch y slip, ynghyd â’r arian, yn ôl at Miss Passmore yn yr ysgol cyn dydd Gwener, Chwefror 14 os gwelwch yn dda.


^yn ôl i'r brif restr