Nadolig Llawen:

Nadolig Llawen:

19th December 2013

Rydym wedi cael tymor prysur iawn yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Dyma rai o’r pethau sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol:

Tripiau Addysgiadol / Llangrannog:
Yn ystod y tymor, mae llawer o’r disgyblion wedi bod ar dripiau addysgiadol gwahanol. Mae’r disgyblion wedi ymweld ag Amgueddfa Caerdydd a Big Pit; maent wedi bod i weld pantomeim ac aeth 66 o ddisgyblion o flynyddoedd 5 a 6 i Langrannog am y penwythnos.

Sioeau Nadolig:
Mae’r disgyblion a phob aelod o staff wedi gweithio’n galed iawn ar y cyngherddau a’r sioeau Nadolig eto eleni. Roedd y perfformiadau yn wych ac rydym yn ddiolchgar iawn i bob un am yr holl waith caled. Diolch i chi hefyd am fod mor barod i baratoi a phrynu gwisgoedd ar gyfer y disgyblion. Rydym yn gobeithio rhoi DVD o Oliver at ei gilydd erbyn y flwyddyn newydd. Roedd y system docynnau wedi gweithio’n dda iawn eleni ac rydym yn bwriadu prynu adnoddau a llyfrau newydd gyda’r arian a godwyd.

Cyngherddau’r Côr / Canu yn John Lewis:
Mae’r côr wedi bod yn brysur iawn eleni yn barod. Perfformiodd y côr mewn cyngerdd i godi arian tuag at ‘British Heart Foundation’ yn Theatr y Congress ac yn ddiweddar, aeth y côr i berfformio yn John Lewis, Caerdydd ar gyfer y siopwyr Nadolig. Derbyniodd yr ysgol e-bost yn diolch i’r côr ac yn canmol y disgyblion am eu perfformiad.

Parseli i blant y byd:
Unwaith eto eleni, penderfynon ni gymryd rhan yn y prosiect Nadolig ‘Operation Christmas child’. Pwrpas y prosiect yw i sicrhau bod plant anghenus ar draws y byd yn cael anrheg i’w agor ar ddiwrnod Nadolig. Casglwyd dros 50 o focsys ar gyfer yr ymgyrch ac mae’r parseli bellach wedi ein gadael ni. Diolch yn fawr i bob un gymerodd ran.

Wythnos Hybu Iechyd:
Cafwyd wythnos Hybu Iechyd lwyddiannus yn yr ysgol eto eleni. Gwahoddwyd nifer fawr o asiantaethau gwahanol mewn i siarad gyda’r disgyblion a chymerodd pob dosbarth ran mewn gwahanol weithgareddau i gadw’n iach. Diolch i Miss Manon Jones a Mr Passmore am eu gwaith paratoi.

Codi Arian:
Diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at wahanol achosion y tymor hwn. Rydym wedi llwyddo i gasglu £660 hyd yn hyn tuag at ein helusennau. Codwyd dros £1800 ar gyfer yr ysgol gyda’r Cicio Pêl-droed noddedig a bydd yr arian hwn yn mynd tuag at brynu adnoddau chwaraeon a chitiau ar gyfer yr ysgol gyfan. Casglwyd dros £700 yn y Ffair Nadolig a bydd yr arian yn mynd tuag at leihau costau tripiau ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn anffodus, rydym yn ffarwelio â Miss Nerys Griffiths am gyfnod o ddau dymor wrth iddi fynd ar ei chyfnod mamolaeth. Rydym yn dymuno pob lwc i Miss Griffiths gyda’i babi newydd ac rydym yn siŵr o weld ei heisiau dros y misoedd nesaf. Croesawn Miss Hazel Williams i’r ysgol dros y cyfnod hwn.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth yn ystod y tymor hwn. Mwynhewch y gwyliau Nadolig ac edrychwn ymlaen at groesawu’r disgyblion yn ôl i’r ysgol ar ddydd Mercher, yr 8fed o Ionawr.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr