Llythyr o'r Llywodraethwyr:

Llythyr o'r Llywodraethwyr:

29th November 2013

Ar ran Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Cwmbrân, hoffwn estyn ein diolch diffuant am y gefnogaeth yr ydych yn ei roi i gymuned yr ysgol.

Annwyl Rieni / Gofalwyr

Rydym i gyd yn falch iawn o'n hysgol lwyddiannus ac roeddwn i eisiau rhannu rhai diweddariadau a mentrau mae'r ysgol wedi ymgymryd â nhw yn ddiweddar.

Byddwch wedi sylwi ar y buddsoddiad sylweddol i ddiogelu’r safle a'r adeiladau. Mae'r ysgol wedi cymryd y penderfyniad i fuddsoddi o'i chyllideb ei hun gan nad oes arian gan yr Awdurdod Lleol i wella tiroedd neu ddatblygu'r safle fel yr hoffem o leiaf yn y 10 mlynedd nesaf. Mae'r ysgol wedi gosod ffenestri newydd a thrwsio siliau a oedd wedi pydru. Mae hyn eisoes yn gwneud yr ysgol yn fwy diogel ac yn gynhesach hefyd. Mae ffens newydd yn cael ei chodi ar hyn o bryd o amgylch y safle er mwyn diogelu ein hysgol a’r tiroedd ac yn cysylltu'r ardal yng nghefn yr ysgol mewn modd diogel. Mae hyn yn hanfodol am fod yr ysgol mor llawn ac o dan ei sang fel bod angen defnyddio bob rhan ohoni yn effeithiol er mwyn diogelwch. Byddem yn gobeithio datblygu'r tir hwn ymhellach fel cae chwarae neu faes chwarae yn y dyfodol gyda llwybr a rheiliau i fynd yno. Rydym am wneud y gorau o'n hysgol a'r tir.

Mae cynllunio ariannol gofalus a monitro cyllidebau wedi galluogi'r ysgol i fuddsoddi yn y ffordd hon ar gyfer yr holl ddisgyblion. Mae'r ysgol wedi blaenoriaethu gwaith hanfodol yn ddoeth heb gyfaddawdu ar addysgu ac adnoddau dysgu. Buddsoddwyd hefyd mewn gliniaduron newydd a'r dechnoleg ddiweddaraf hefyd er mwyn cefnogi pob disgybl. Mae'r CRhA hefyd wedi cefnogi’r ymgyrch hon ac wedi bod o gymorth drwy brynu mwy o liniaduron.

Mae ein hysgol yn dathlu canlyniadau ardderchog yn gyson ac mae’r etifeddiaeth ddysgu hon yn golygu ein bod yn llawn ac o dan ein sang. Mae’n ymddangos y bydd hyn yn parhau o flwyddyn i flwyddyn.

Unwaith eto, diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus. Gan ddymuno i chi i gyd Nadolig Llawen.

Jo Smith
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Ysgol Gymraeg Cwmbrân


^yn ôl i'r brif restr